Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu Corff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”), sef y Rhan sy’n ymwneud â chynlluniau iaith.
Craffu technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Dyma’r gorchymyn cyntaf o’i fath ers pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’). Diben y Mesur hwnnw yw disodli’r drefn cynlluniau iaith a sefydlwyd o dan y Ddeddf, ac a orfodwyd gan Fwrdd yr iaith Gymraeg, â safonau iaith a orfodir gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae gan y tri chorff a unir yng Nghorff Adnoddau Naturiol Cymru eu cynlluniau iaith eu hunain, a bwriad y Gorchymyn hwn yw sicrhau na fydd bwlch yn statws cyfreithiol y gwasanaethau a ddarperir yn y Gymraeg wedi’r uno.
Yr hyn sy’n ddiddorol yw’r hyn y mae’r Gorchymyn yn ei ddangos am yr amserlen ar gyfer gweithredu’r Mesur. Ceir y canlynol yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a osodwyd gyda’r Gorchymyn –
“At hynny, mae’n debygol na fydd Comisiynydd y Gymraeg mewn sefyllfa am gryn amser i gyhoeddi hysbysiad cydymffurfio i Gyfoeth Naturiol Cymru o dan adran 45 o Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safonau. Cyn y gellir cyhoeddi’r hysbysiad hwnnw, byddai rhaid i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 y Mesur i gynnwys Corff Adnoddau Naturiol Cymru fel corff a allai fod yn agored i gydymffurfio â safonau. Bydd rhaid gwneud rheoliadau i ragnodi safonau ac i roi awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg roi hysbysiad cydymffurfio i Gyfoeth Naturiol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ragnodwyd. Yn y cyfamser, pe na fyddai gan Gyfoeth Naturiol Cymru gynllun iaith Gymraeg y gellir ei orfodi, byddai hynny’n debygol o olygu bod cyfnod hir o amser rhwng pontio o’r tri chorff presennol (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd), â’u cynlluniau gorfodadwy, a gorfodi safonau ar Gyfoeth Naturiol Cymru.” (pwyslais y cynghorwyr cyfreithiol)
Felly, er bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg bellach wedi’i ddisodli gan Gomisiynydd y Gymraeg yn unol â’r Mesur, ymddengys y bydd cynlluniau iaith yn unol â’r Ddeddf yn parhau i fod mewn grym am beth amser i ddod.
[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;]
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Rhagfyr
2012
Ymatebodd y Llywodraeth fel a ganlyn:
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012
Ymateb i'r Pwynt Adrodd Craffu ar Ragoriaethau
Mae'r Llywodraeth yn nodi'r pwynt a godwyd yn yr adroddiad. Rydym wedi delio a'r pwynt yma yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ac nid oes gennym unrhyw beth i'w ychwanegu.